SL(5)336 – RHEOLIADAU'R POLISI AMAETHYDDOL CYFFREDIN (DIWYGIADAU AMRYWIOL) (CYMRU) (YMADAEL Â'R UE) 2019

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau drafft hyn i'w gwneud o dan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi. Maent yn ceisio mynd i'r afael â methiannau cyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu'n effeithiol, a diffygion eraill, sy'n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd.

Maent yn diwygio pedwar darn o is-ddeddfwriaeth Cymru ym maes amaethyddiaeth: Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006; Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014; Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014; a Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015. Mae'r rhain i gyd yn gyfraith yr UE a ddargedwir yn unol â Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).

Mae'r darpariaethau yn rhai mân a thechnegol ac nid ydynt yn newid yr effaith a gaiff yr is-ddeddfwriaeth sy'n cael ei diwygio ar ddinasyddion. Mae'r Memorandwm Esboniadol yn gywir wrth nodi "the current CAP arrangements will continue unchanged” yn sgil y Rheoliadau hyn, gydag un eithriad bach yn ymwneud â rheoliad 4, yr ymdrinnir ag ef isod.

Gweithdrefn

Cadarnhaol.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Rheol Sefydlog 21.3 – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Mae Rheoliad 4 yn diwygio Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014 (OS 2014/3222 (C. 327)) mewn amryw ffyrdd.

Yr unig un sy'n ymddangos i achosi newid o'r sefyllfa bresennol yw rheoliad 4(2), sy'n dileu cyfeiriadau at y "corff cydgysylltu". Mae deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd (yn benodol, Rheoliad (UE) rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch ariannu, rheoli a monitro'r polisi amaethyddol cyffredin) yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau sy'n penodi mwy nag un asiantaeth dalu sy'n gwneud taliadau PAC hefyd ddynodi corff i gydgysylltu rhwng yr asiantaethau hynny a gweithredu fel yr unig bwynt cyswllt â Chomisiwn yr UE. Mae gan y DU asiantaethau talu ar wahân ar gyfer pob un o'i gwledydd cyfansoddol, ac uned yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y DU (DEFRA) sy'n gweithredu fel corff cydgysylltu. Nid yw'r uned yn berson cyfreithiol ar wahân i DEFRA.

Mae'r diwygiadau a wneir gan reoliad 4(2) yn awgrymu na fydd yr uned hon yn bodoli mwyach, neu na fydd yn cyflawni ei holl swyddogaethau cyfredol ar ôl Brexit. Swyddogaethau yn ymdrin â'r UE yw'r rhan fwyaf o'r rhain, felly ni fyddant bellach yn berthnasol wedi i'r DU ymadael â'r UE. Rydym yn cael ar ddeall gan Lywodraeth Cymru y bydd unrhyw swyddogaethau sy'n weddill ar ôl Brexit yn cael eu cyflawni ar y cyd gan Weinidogion Cymru, Gweinidogion yr Alban, yr adran berthnasol yng Ngogledd Iwerddon, a'r Ysgrifennydd Gwladol (yn achos Lloegr).  Byddai'n ddefnyddiol pe bai Llywodraeth Cymru yn nodi rhagor o wybodaeth am hyn er budd y Cynulliad a'r cyhoedd. Nid yw'r Nodyn Esboniadol na'r Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau drafft yn ymdrin â'r mater hwn.

Mae Rheoliad 5 yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015 (OS 2015/1252 (C. 84)). Mae'r rhaglith i Reoliadau 2015 yn nodi bod pob cyfeiriad yn yr OS at offerynnau Ewropeaidd i'w ddehongli fel cyfeiriad at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd (h.y. fel y'u diwygir gan gyrff yr UE sydd â'r pŵer i wneud yr offerynnau UE hynny). Mewn termau technegol, mae'r cyfeiriadau yn rhai newidiadwy. Cyfeiriwn at hyn fel "UE-newidiadwy".

O dan adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), a pharagraff 1 o Atodlen 8 iddi, ni ddylid darllen cyfeiriadau newidiadwy cyfredol mewn deddfwriaeth ddomestig (gan gynnwys deddfwriaeth Cymru) at y rhan fwyaf o reoliadau'r UE yn y ffordd hon bellach. Yn lle hynny, maent i'w darllen fel cyfeiriadau at reoliadau'r UE fel yr oeddent yn gymwys yng nghyfraith yr UE yn union cyn y diwrnod ymadael (sy'n cael ei ddiffinio yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ar hyn o bryd fel 11pm ar 29 Mawrth 2019), ond bydd cyfeiriadau atynt hefyd yn codi unrhyw ddiwygiadau a wneir iddynt gan gyfraith ddomestig o bryd i'w gilydd. Felly, byddant yn parhau i fod yn newidiadwy, ond ni fyddant yn "UE-newidiadwy"; byddant yn awtomatig yn cynnwys diwygiadau a wneir gan gyfraith ddomestig yn y dyfodol, ond nid newidiadau a wneir gan gyfraith yr UE yn y dyfodol.

Gall y ddarpariaeth fod cyfeiriadau o'r fath i'w darllen fel eu bod yn cynnwys diwygiadau a wneir gan gyfraith ddomestig o bryd i'w gilydd gael ei threchu gan fwriad i'r gwrthwyneb.

Mae paragraffau (3) a (4) o reoliad 5 yn diwygio, ym mhob achos, gyfeiriad penodol at offeryn yr UE er mwyn dileu ei statws "UE-newidiadwy". Yn lle hynny, mae'r cyfeiriadau hynny i'w darllen fel cyfeiriadau at offeryn yr UE dan sylw fel yr oeddent yn gymwys yn union cyn y diwrnod ymadael. Ymddengys i ni fod hyn yn unioni'r dehongliad o'r darpariaethau perthnasol sy'n deillio o'r UE mewn pryd, ac na fyddant yn newidiadwy yn ddomestig ychwaith.

Mae Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015 yn cynnwys cyfeiriadau eraill at offerynnau'r UE na chânt eu diwygio yn y modd hwn. Felly, bydd y cyfeiriadau hynny yn cael eu trosi, gan Atodlen 8 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), o fod yn gyfeiriadau "UE-newidiadwy" i fod yn gyfeiriadau domestig a byddant yn awtomatig yn codi addasiadau a wneir i'r offerynnau hynny gan gyfraith ddomestig wedi i’r DU ymadael â'r UE.

Mae Llywodraeth Cymru wedi esbonio i ni ei rhesymau dros wneud darpariaethau penodol (a ddisgrifir uchod) yn annewidiadwy.  Yr esboniad yw mai dim ond yn 2015 yr oedd rhai taliadau ar gael. Felly, mae angen pennu’r ffordd y cafodd y taliadau eu cymhwyso ar bwynt penodol mewn amser. Rydym yn ddiolchgar am yr esboniad hwn, ond rydym yn gwahodd Llywodraeth Cymru i esbonio ei rhesymeg yn llawn ac yn gyhoeddus. Mae'n wleidyddol ac yn gyfreithiol bwysig, ac o fudd i'r Cynulliad, fod y rhesymeg yn dryloyw.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

1       Mae'r Rheoliadau'n dangos pa mor anodd yw hi i'r corff craffu a'r rheini y mae'r ddeddfwriaeth yn effeithio arnynt ddeall union effaith yr offerynnau statudol sy'n ymwneud ag ymadael â'r UE ym maes y Polisi Amaethyddol Cyffredin.

2       Ymhlith nifer o rwystrau rhag deall y sefyllfa, gan gynnwys drafftio cyfeiriol, un enghraifft benodol a welir yn y Rheoliadau hyn yw'r anhawster eithriadol o ran deall yn union pa fersiwn o offerynnau'r UE sydd mewn grym ar unrhyw adeg benodol fel rhan o gyfraith ddomestig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).

3       Mae'r darpariaethau deongliadol sydd eisoes yn gymhleth yn adrannau 3 a 6 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), ac Atodlen 8 iddi, ar fin cael Rheoliadau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (Addasiadau a Diddymiadau a Dirymiadau Canlyniadol) 2019 wedi'u hychwanegu atynt. Mae'r rhain yn cael eu drafftio ar hyn o bryd, ac maent yn ymdrin â chyfeiriadau annewidiadwy cyn-Brexit at ddeddfwriaeth yr UE.

4       Mae’r cymhlethdod hwn yn deillio o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Fodd bynnag, rydym yn credu bod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i geisio esbonio, yn well ac yn fwy llawn, i'r Cynulliad ac i ddinasyddion sut mae pob darn o ddeddfwriaeth Cymru ar gyfer ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn cyd-fynd â'r darlun cyfan o ddeddfwriaeth y DU a'r UE – cyfredol ac arfaethedig – ar y pwnc penodol. Ymddengys mai'r lle priodol ar gyfer hyn fyddai'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd ag offerynnau statudol.

5       Fodd bynnag, pryder ychwanegol yw nad yw defnyddwyr terfynol deddfwriaeth yn ymwybodol o fodolaeth Memoranda Esboniadol neu eu bod yn methu cael gafael arnynt yn hawdd, ac rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried sut y gellid gwella'r sefyllfa hon er mwyn ei gwneud yn haws i ddinasyddion Cymru ddeall ystyr deddfwriaeth.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

5 Mawrth 2019